SL(5)415 - Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2019
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 a Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010 er mwyn cywiro mân wallau a wnaed i'r offerynnau hynny gan Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 er mwyn cywiro gwall croesgyfeirio yn rheoliad 8(1) o'r offeryn hwnnw.
Gweithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
1. Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn hepgor adran 187(1) o Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 wrth restru'r pwerau galluogi ar gyfer y Rheoliadau hyn.
2. Mae'r Rheoliadau'n cywiro mân wallau a nodwyd gan y Pwyllgor yn ystod gwaith craffu technegol. Disgwylir i’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019, a oedd yn cynnwys gwall croesgyfeirio, ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2019. Mae'r Rheoliadau wedi'u hamseru i ddod i rym ar yr un dyddiad.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
12 Mehefin 2019